Mae Tîm Achub Mynydd Llanberis yn ymateb i tua 100 o ddigwyddiadau y flwyddyn. Bydd natur y digwyddiadau yn amrywio o droi ffêr neu fod yn hwyr ar lwybrau hawdd, i ddamweiniau difrifol neu angeuol ar glogwyni serth a thir garw. Ambell dro, efallai mai dim ond nifer fechan o aelodau fyddai angen mynd allan; dro arall, byddai angen mwyafrif y Tîm, efallai gyda chymorth gan dimau eraill lleol. Rydym fel Tîm o hyd yn ddiolchgar o'r gefnogaeth y byddwn yn ei derbyn gan dimau eraill a'r gwasanaethau argyfwng, er mwyn sicrhau bod y claf yn cyrraedd yr ysbyty mor gyflym â phosibl.
Fel Tîm, byddwn yn derbyn rhywfaint o offer trwy 'Achub o'r Mynyddoedd, Cymru a Lloegr', ond ar gyfer prynu y rhan fwyaf o'r offer arbenigol byddwn yn dibynnu ar arian a gasglwyd mewn blychau casglu, rhoddion gan y cyhoedd a chlybiau mynydda - rhoddion a wneir yn aml i ddangos gwerthfawrogiad i'r Tîm am eu gwaith. |