 |
Ers y cychwyn, mae'r Tîm wedi cynnwys tua hanner cant o aelodau. Mae gan y gwirfoddolwyr yma gefndir amrywiol - mae gennym hyfforddwyr mynydda, athrawon, peilot, peirianwyr, wardeniaid parc cenedlaethol, twrnai, meddygon a nyrsus yn y Tim. Maent i gyd yn fynyddwyr profiadol iawn, gyda gwybodaeth a phrofiad eang o'r clogwyni, y copaon a'r dyffrynnoedd o gwmpas yr Wyddfa.
Y dyddiau hyn, bydd y Tîm yn cael ei alw allan o ganlyniad i alwad 999 i'r heddlu; bydd yr heddlu yn galw Cyd-lynwyr y Tîm, fydd yn eu tro yn galw gweddill y Tîm allan os bo hynny'n addas. Mae'r Tîm yn darparu'r gwasanaeth gwirfoddol yma 24 awr y dydd trwy gydol y flwyddyn, waeth beth fo'r tywydd neu gyflwr y tir. |
 |