| Mae
holl aelodau o'r tîm yn wirfoddolwyr sy'n byw
yn agos i droed Yr Wyddfa. Mae gan y tîm amrywiaeth o aelodau
sy'n gweithio fel tywyswyr a hyfforddwyr mynydda, athrawon, plymwyr,
wardeniaid y parc, adeiladwyr a phobl busnes. Maent oll yn fynyddwyr
galluog a phrofiadol.
Cant eu galw allan ddydd neu nos 365 o ddyddiau y flwyddyn. Maent
yn rhannu un pwrpas cyffredin, sef cynorthwyo unrhyw un sydd mewn
trafferthion ar y mynydd.
|
 |