|
Yn
y gaeaf y peth gorau yw gwisgo haenau o ddillad. Dylid gwisgo dillad
thermol agosaf at y croen. Dros y rhain gwisgwch ddillad cnu (fleece)
a haen sy'n dal dwr dros y cyfan.
Gwisgwch
esgidiau cerdded da gyda gwadnau trwchus. Yn ogystal â'r dillad
sydd amdanoch, dylech gario dillad wrth gefn, het a menig.
OFFER
*
Dylech gario map a chwmpawd a gwybod sut i'w defnyddio.
*
Dylech gario tors a batri wrth gefn.
*
Gall pib neu ffôn symudol fod yn ddefnyddiol iawn I gael help
mewn argyfwng.
*
Yn y gaeaf mae esgidiau cryfion, bwyelli rhew, cramponau a thors
yn angenrheidiol.
*
Mae'r corf yn defnyddio mwy o egni i gadw'n gynnes yn y gaeaf, felly
ewch â diodydd poeth a digon o fwyd sy'n cynnwys llawer o
egni gyda chi.
Y TYWYDD A CHYNLLUNIO
Gall
y tywydd newid yn gyflym iawn yn Eryri Yn aml mae'r tywydd ar y
copaon yn fwy garw nag yn y dyffrynnoedd.
*Cynlluniwch
eich taith yn ofalus gan gymryd cyflwr y tywydd a gallu pob aelod
o'ch grwp i ystyriaeth.
*Peidiwch
â bod yn or - hyderus - rhowch awr ar gyfer pob 4 km (2.5
milltir) ac ychwanegwch awr ar gyfer pob 500m (1,500 tr.) o ddringo,
gydag amser ychwanegol i aros i orffwyso a bwyta.
*Cychwynnwch
mewn digon o amser i fedru gorffen y daith mewn golau dydd. Mae
tywyllwch Eryri yn dywyll iawn, iawn!
BETH Y DYLECH EI WNEUD MEWN ARGYFWNG
* Os
ydych yn cael eich dal yn ôl (er enghraifft, trwy fynd i lawr
i'r dyffryn anghywir), rhoddwch wybod i'ch canolfan neu i'r heddlu
cyn gynted â phosibl fel na fydd y tîm achub mynydd
yn cael ei alw allan yn ddiangen.
* Os
oes raid i chi roi help i rywun sydd wedi brifo gwnewch yn siwr
eich bod chi'n ddiogel. Rhowch gymorth cyntaf os oes angen; sicrhewch
fod y claf yn gallu anadlu'n ddirwystr; rhwymwch unrhyw anafiadau
i atal colli gwaed; cadwch y claf yn gynnes, mewn cysgod ac yn ddiogel
rhag unrhyw anaf pellach.
* Ceisiwch
help. Ffoniwch 999 a gofyn am Adran Achub Mynydd Heddlu Gogledd
Cymru. Rhowch gymaint o fanylion â phosibl, yn cynnwys cyfeirnod
grid os ydych yn gwybod beth ydyw, Os ydych yn defnyddio ffôn
symudol peidiwch â'i switsio i ffwrdd ond ceisiwch arbed batris.
* Os
daw cymoth gyda hofrennydd, cofiwch sicrhau popeth rhydd (dillad,
sachau teithio, etc.). Peidiwch â mynd at yr hofrennydd oni
bai bod y criw yn dweud wrthych am wneud hynny.
|
RHESTR
WIRIO DIOGELWCH
|
| *Gwisgwch
ddillad addas: |
| |
-
Haenau cynnes gyda haen allanol sy'n dal dwr |
| |
-
Esgidiau cadarn da gyda gwadnau trwchus |
| |
-
Het, menig a dillad cynnes wrth gefn |
|
| *
Sach teithio i gario bwyd, diod cynnes, tors, map a chwmpawd |
| *
Defnyddiwch ragolygon y tywydd (0891 500449) |
| *
Gadewch fanylion yn nodi lle rydych yn bwriadu mynd a phryd
y disgwyliwch |
|
|
| *
Dylech wybod lle rydych bob amser a gwybod sut i roi cyfeirnod
grid |
| *
Dylech wybod beth i'w wneud mewn argyfwng |
| *
Cofiwch gadw gyda'ch gilydd |
| |
| YN
Y GAEAF |
| *
Gwisgwch esgidiau addas ar gyfer y gaeaf |
| *
Mae dillad cynnes ychwanegol yn hanfodol |
| *
Gwnewch yn siwr fod gennych ddigon o amser a golau dydd |
| *
Ewch â bwyd ychwanegol gyda chi |
| *
Dylech gario bwyell rew a chramponau a gwybod sut i'w defnyddio |
| *
Cofiwch fynd â thors gyda chi |
ACHUB
AR Y MYNYDDOEDD
Bob blwyddyn mae tua 250 o ddamweiniau yn Eryri. Pan mae damweiniau'n
digwydd meant yn golygu llawer o waith anodd a pheryglus iawn i'r
timau Achub Mynydd - gwaith y meant yn ei wneud yn gwbl wirfoddol.
Maent yn ymateb i argyfyngau gwirioneddol yn mhob tywydd ddydd a
nos.
Caiff
Achub Mynedd ei ariannu bron yn gyfan gwbl drwy roddion gwirfoddol.
Gallai eich cyfraniad chi achub bywyd rhywun.
|