 |
Gwneud i'ch rhodd fynd ymhellach - Rhowch 'Gymorth Rhodd'!
Mae Cymorth Rhodd yn caniatáu i ni fel elusen hawlio gan Gyllid y Wlad y dreth a dalwyd ar rodd a wnaed gan unrhyw roddwr sy'n talu trethi. Gan fod cyfradd sylfaenol treth incwm yn 22% ar hyn o bryd, golyga hyn y gallwn hawlio 28c yn ychwanegol am bob £1 yr ydych yn ei rhoi i ni. Cyn belled â'ch bod yn drethdalwr yn y DG y cwbl sydd angen i chi ei wneud yw llenwi ac arwyddo Datganiad Cymorth Rhodd syml.
Oes raid i mi wneud mwy nag un rhodd?
Na. Er y byddai rhodd reolaidd yn fuddiol i ni nid oes raid i chi wneud hynny. Mae pob un punt yn denu 28c ychwanegol.
Beth os ydwyf wedi gwneud rhodd arall yn y gorffennol?
Gellir hefyd hawlio'r dreth ar unrhyw rodd a wnaed gennych ers 6 Ebrill 2000 cyn belled â'ch bod wedi talu gyda siec, Archeb Reolaidd neu Ddebyd Uniongyrchol fel y gellir cadarnhau hynny.
Beth am roddion y gallwn fod yn dymuno eu gwneud yn y dyfodol?
Unwaith y byddwch wedi cwblhau'r Datganiad Cymorth Rhodd, bydd unrhyw roddion a wneir gennych yn dilyn hynny yn cymhwyso'n awtomatig ar gyfer adennill treth. |