Mae Tîm Achub Mynydd Llanberis yn Elusen Gofrestredig - Rhif 513913.
Er mwyn prynu offer, cyfarpar achub arbenigol a deunydd cymorth cyntaf mae'n rhaid dibynnu bron yn gyfan gwbl ar roddion gan wirfoddolwyr.
Mae aelodau o'r tîm yn ymarfer drwy'r flwyddyn ac yn mynychu cyrsiau hyfforddi ar ofal o'r claf, rheoli y chwilio a thechnegau achub. Byddwn yn hyfforddi ar y cyd ag asiantaethau eraill e.e. Yr Heddlu, Cymdeithas Cw^n Achub, Hofrenyddion y Llu Awyr a'r Gwasanaeth Ambiwlans.
Rydym yn falch ein bod yn darparu gwasanaeth achub mynydd o'r radd flaenaf . 'Rydym angen eich rhoddion i gynnal ein gwaith.
Gallwch helpu drwy ysgrifennu at:
Y Trysorydd,
Tîm Achub Mynydd Llanberis,
34, Glanffynnon, Llanrug Gwynedd. LL55 4PR. |