|
Atebion
i'ch cwestiynau
C1
Sut mae galw am gymorth y tîm achub?
Ateb Darganfod y ffôn agosaf , deialu 999
a gofyn am yr Heddlu a Thîm Achub Mynydd.
C2 A oes rhaid i mi dalu?
A Gwasanaeth gwirfoddol yw achub mynydd, mae'n cael
ei ariannu bron yn gyfan gwbl drwy roddion. Gallwch helpu drwy gyfrannu.
C3 A yw'r
tîm yn barod i fynd allan ar unrhyw adeg?
A Mae'r aelodau yn barod i fynd ar y mynydd 24 awr
y dydd 365 dydd y flwyddyn. Cânt eu galw drwy pager a ffôn.
C4 Faint o amser mae'n cymryd i ddringo'r Wyddfa?
A Fel arfer mae'r daith i fyny ac i lawr yn cymryd
tua 5 neu 6 awr . Ond mae'n bosibl i ambell griw arafach gymryd llawer
iawn hirach. Mae'n ddoeth neilltuo tair awr i gerdded i lawr cyn iddi
nosi.
C5 Mewn tywydd braf 'rwy'n deall nad yw Yr Wyddfa yn beryglus ac nad oes
angen offer arbennig. A yw hyn yn gywir?
A Mae tywydd sefydlog yn brin ac ni ellir dibynnu
arno. Felly mae'n ddoeth i baratoi ar gyfer newid yn y tywydd. Mae llawer
o'r rhai sy'n galw am gymorth wedi mynd i drafferth oherwydd diffyg dillad
ac offer addas. Ceir cyngor da yn ein pamffledi diogelwch.
C6 A yw llwybrau Yr Wyddfa yn hawdd eu dilyn, a pha un yw'r hawddaf?
A Mae prif lwybrau Yr Wyddfa wedi eu diffinio yn
eithaf da mewn amgylchiadau clir ond mae pobl yn mynd ar goll mewn niwl
a thywyllwch. Llwybr Llanberis yw'r un a ystyrir yr hawddaf i'w ddilyn
yn yr haf. Pan fydd eira yn gorwedd ar y mynydd nid oes ffordd hawdd i
fyny nac i lawr.
C7 Petawn yn cerdded i fyny Yr Wyddfa a oes modd i mi deithio i lawr ar
y trên os fyddai wedi blino?
A Mae Rheilffordd Yr Wyddfa wedi cau drwy y gaeaf.
Yn yr haf ceir gwybodaeth am amseroedd y trenau oddi wrth y Cwmni: ffôn
01286 870223 neu ar y wê www.snowdonrailway.co.uk. Peidiwch a dibynnu
fod y trên yn rhedeg yn yr haf gan fod gwyntoedd uchel a thywydd
drwg yn gallu ei rhwystro.
C8 A oes eira ar Yr Wyddfa drwy gydol y flwyddyn?
A Mae eira yn gyffredin ac mae'n gallu gorwedd ar
y copaon rhwng mis Hydref a Gorffennaf.
C9 A yw'n
ddiogel i fynd i fyny'r Wyddfa mewn esgidiau ysgafn?
A Mae esgidiau anaddas yn achosi llawer o ddamweiniau
pob blwyddyn. Nid yw esgid ysgafn yn rhoi digon o gynhaliaeth i'r ffêr
na gafael ar graig. Byddwn yn cymeradwyo esgid gerdded dda.
C10 A oes teithiau tywys swyddogol i fyny'r Wyddfa, a sut mae darganfod
tywyswyr cymwys?
A Mae'n bosibl cael gwybodaeth am deithiau tywys
yn y canolfannau gwybodaeth i ymwelwyr.
Fel cymhwyster sylfaenol cymeradwyir bod gan y tywysydd Dystysgrif Arweinydd
Mynydd. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â MLTB www.mltb.org/.
C11 A yw ffoniau symudol yn gweithio ar y mynydd?
A Ydynt. Ond mae yna fannau lle mae y derbyniad
yn wael. e.e . i'r de o'r Wyddfa a'r ardal o gwmpas Pen y Pass. Cadwch
eich batri mewn cyflwr da yn gynnes a sych.
C12 Lle mae'n bosibl cael rhagolygon tywydd ar gyfer Yr Wyddfa?
A Ffoniwch 09068 500449 http://www.meto.gov.uk/loutdoor/mountainsafety/snowdonia.html
C13 A fydd y Gwesty ar y copa yn agored, ac a oes modd aros yno?
A Nid oes modd aros dros nos yn y gwesty ac mae
wedi cau dros y gaeaf. Ceir gwybodaeth am weithgareddau yr haf drwy ffonio'r
cwmni 01286 870223 neu www.snowdonrailway.co.uk
. Peidiwch a dibynnu fod y gwesty na'r caffi yn agored hyd yn oed yn yr
haf oherwydd gwyntoedd cryf neu dywydd gwael.
C14 A yw'n bosibl dioddef oddi wrth glefyd uchder ar Yr Wyddfa?
A Na. Nid yw mynyddoedd y deyrnas unedig ddigon
uchel i achosi clefyd uchder. Ond mae cerdded i fyny llethr yn waith caled
a dylai y rhai sy'n dioddef gyda thrafferthion anadlu neu boenau yn y
frest gymryd gofal arbennig. Os oes ganddoch amheuaeth yna ddilynwch gyngor
meddygol.
C15 Petawn am drefnu gweithgaredd ar gyfer elusen
ar Yr Wyddfa, pwy a fyddai yn cynghori ar faterion diogelwch ac amgylcheddol?
A Awdurdod y Parc Cenedlaethol - Ffôn 01766 770274. Cofiwch fod
Yr Wyddfa yn fynydd dan bwysau amgylcheddol ac felly nid yw yr awdurdodau
yn edrych yn ffafriol tuag at y fath weithgareddau.
|