Os ydych chi yn un o'r miloedd lawer sy'n dod i Eryri ar eich gwyliau, yna mae'n annhebygol y byddwch angen llawer o'r offer sydd i'w weld yn y llun. Fodd bynnag, gwnewch yn siwr eich bod wedi paratoi rhag ofn i'r tywydd newid. Yn ystod tywydd braf yr haf, mae'n siwr y byddwch yn cychwyn cerdded yn gwisgo dillad ysgafn yn unig, ond dylech o hyd gario dillad cynnas sy'n dal glaw, gan ei bod yn debygol y gall y copa fod yn oer, gwlyb a gwyntog erbyn i chi gyrraedd.

Yn y gaeaf, system o haenau o ddillad sy'n fwyaf effeithiol. Dylech wisgo haen isaf (thermal) nesaf at y croen. Dros hyn, gwisgwch ddillad cynnes gyda haen sy'n dal glaw dros y cwbl.

 
 
     

Offer hanfodol ar gyfer dringo creigiau