Gwirfoddolwyr sy'n byw yn agos ar yr Wyddfa yw holl aelodau Tîm Achub Mynydd Llanberis.

Tywysyddion a hyfforddwyr mynydda, athrawon, peirianwyr, meddygon, wardeniaid Parc Cenedlaethol, adeiladwyr, pobl busnes: maent i gyd i'w canfod yn y Tim. Mae pob un yn fynyddwr profiadol. Er mwyn rhoi cymorth i unrhyw un sydd mewn trafferthion yn y mynyddoedd, maent yn barod i droi allan ym mhob tywydd, ddydd neu nos, 365 diwrnod y flwyddyn.

Mae pencadlys y Tim ym mhentref Nant Peris (hen bentref Llanberis) wrth droed yr Wyddfa.