|
Gwneud i'ch rhodd fynd ymhellach - Rhowch ‘Gymorth Rhodd’!
Mae Cymorth Rhodd yn caniatáu i ni fel elusen hawlio gan Gyllid y Wlad y dreth a dalwyd ar rodd a wnaed gan unrhyw roddwr sy'n talu trethi. Gan fod cyfradd sylfaenol treth incwm yn 22% ar hyn o bryd, golyga hyn y gallwn hawlio 28c yn ychwanegol am bob £1 yr ydych yn ei rhoi i ni. Cyn belled â'ch bod yn drethdalwr yn y DG y cwbl sydd angen i chi ei wneud yw llenwi ac arwyddo Datganiad Cymorth Rhodd syml.
Oes raid i mi wneud mwy nag un rhodd?
Na. Er y byddai rhodd reolaidd yn fuddiol i ni nid oes raid i chi wneud hynny. Mae pob un punt yn denu 28c ychwanegol.
Beth os ydwyf wedi gwneud rhodd arall yn y gorffennol?
Gellir hefyd hawlio'r dreth ar unrhyw rodd a wnaed gennych ers 6 Ebrill 2000 cyn belled â'ch bod wedi talu gyda siec, Archeb Reolaidd neu Ddebyd Uniongyrchol fel y gellir cadarnhau hynny.
Beth am roddion y gallwn fod yn dymuno eu gwneud yn y dyfodol?
Unwaith y byddwch wedi cwblhau'r Datganiad Cymorth Rhodd, bydd unrhyw roddion a wneir gennych yn dilyn hynny yn cymhwyso'n awtomatig ar gyfer adennill treth.
Beth os ydwyf yn drethdalwr cyfradd uwch?
Os ydych yn talu trethi ar y gyfradd uwch, sef 40% ar hyn o bryd, gallwch hefyd hawlio gostyngiad treth i chi eich hun o 18% o'ch cyfraniad crynswth (dyma'r gwahaniaeth rhwng y gyfradd safonol a'r gyfradd uwch).
Beth os nad ydwyf yn drethdalwyr bellach?
Byddwn yn ysgrifennu atoch ar ddiwedd pob blwyddyn ariannol y byddwn wedi derbyn rhodd gennych. Cyn belled â'ch bod yn drethdalwr bydd angen i chi gadw'r llythyr hwn os ydych yn gorfod llenwi ffurflen dreth. Os bydd eich amgylchiadau yn newid fel nad ydych bellach yn talu trethi mae'n bwysig eich bod yn rhoi gwybod i ni cyn gynted â phosib' fel nad ydym yn parhau i hawlio treth ar eich cyfraniadau.
Sut gallaf wneud fy rhodd?
Gellir talu drwy siec, yn daladwy i ‘Dîm Achub Mynydd Llanberis’. Os ydych yn dymuno cyfrannu'n rheolaidd gallwn drefnu Archeb Reolaidd neu Ddebyd Uniongyrchol. Cliciwch isod i agor y Datganiad Cymorth Rhodd. Argraffwch y ffurflen â'i hanfon i'r cyfeiriad a nodir yn y manylion cysylltu. Diolch yn fawr i chi.
Datganiad Cymorth Rhodd
|