Mae'n debyg mai'r Wyddfa, mynydd uchaf Cymru, yw'r mynydd prysuraf ym Mhrydain. Mae llawer o'r ymwelwyr sy'n dod i Gymru yn benderfynol o gerdded neu ddringo i'w gopa.

Yn yr ardal yma, sy'n cynnwys Bwlch Llanberis a chlogwyni mawr Clogwyn Du'r Arddu a Lliwedd, mae nifer fawr o ddringfeydd o safon uchel sy'n denu dringwyr o wledydd ar draws y byd. Mewn gaeaf caled, mae rhai o ddringfeydd rhew anoddaf Prydain i'w canfod yma.

Oherwydd y niferoedd o ymwelwyr sy'n dod i ardal yr Wyddfa, Tîm Achub Mynydd Llanberis yw un o'r prysuraf ym Mhrydain.

 
 
       

Cliciwch yma i weld map mwy